Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2026
Pwynt Craffu Technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad oedd y pwerau galluogi a restrwyd mewn offerynnau diwygio blaenorol yn cyfeirio at yr is-adrannau penodol; fodd bynnag, roeddem o’r farn y byddai cyfeirio at yr is-adrannau penodol yn cynorthwyo’r darllenydd yn well.
Pwynt Craffu Technegol 2: Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod hepgor y cyfeiriad at adran 64(2)(a) yn anghywirdeb. Fodd bynnag, yn ein barn ni, nid yw’n effeithio ar ddilysrwydd y ddarpariaeth sy’n ymwneud â thrin incwm mewn asesiad ariannol.
Mae’r pŵer yn adran 64(1) wedi ei enwi fel pŵer galluogi yn ogystal ag adran 64(2)(b). Mae adran 64(1) yn ddyletswydd gyffredinol i “wneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiadau ariannol ac mewn perthynas â’u cynnal”. Mae adran 64(2) yn nodi elfennau mwy penodol y mae rhaid eu cynnwys mewn rheoliadau a wneir o dan y ddyletswydd gyffredinol. Er gwaethaf y diffyg cydnabyddedig yn y drafft, oherwydd bod adran 64(1) wedi ei henwi, nid ydym o’r farn mai effaith yr hepgoriad yw codi amheuaeth ynghylch vires y ddarpariaeth yn rheoliad 3(a).
Yn ogystal, gan mai effaith glir rheoliad 3(a) yw gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm mewn perthynas ag asesiadau ariannol, mae’r bwriad statudol yn amlwg.